Cronfa Arddangos Ffilmiau (CAFf)

Cefnogaeth i Arddangosfa Ffilmiau Annibynnol

Ymgeisiwch am gyllid i ddangos ffilmiau annibynnol o’r DU, ffilmiau rhyngwladol a delweddau byw i gynulleidfaoedd ledled Cymru.

Dewiswch dab i weld...

Cipolwg:

  • Cyfanswm sydd ar gael: Oddeutu £95,000
  • Cyllid: hyd at £10k 
  • Cronfa’n agor: wythnos yn cychwyn 19 Chwefror 2024
  • Cronfa’n cau: 9am ddydd Llun 15 Ebrill 2024 (rownd gyntaf) a dydd Llun 24 Mehefin 2024 (ail rownd)
  • Ffenestr gweithgarwch: Mai 2024 - Mawrth 2025. Gallai cyllid amlflwyddyn fod ar gael, yn ddibynnol ar gronfeydd a phrawf bod gofyn amdano.
  • Nod: Datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol y DU (gan gynnwys ffilmiau o Gymru) a ffilmiau rhyngwladol, treftadaeth sgrin a delweddau byw

Nodwch: Dylai’ch gweithgaredd gychwyn o fis Mai ymlaen, er mwyn caniatáu penderfyniadau cyllido.

Blaenoriaethau:Mae diddordeb arbennig gennym mewn cynigion prosiect sy’n cynrychioli cymunedau ledled Cymru. Yn benodol – cynulleidfaoedd anabl, cynulleidfaoedd ifanc, cynulleidfaoedd Du a Mwyafrif Byd-eang, cynulleidfaoedd dosbarth gweithiol a phrosiectau sy’n chwalu rhwystrau economaidd. Cysylltwch â ni os oes angen cyngor ychwanegol arnoch

Darllenwch y canllawiau yn llawn a dilynwch y camau a nodir, er mwyn gwneud cais.

Gallwch weld a lawr lwytho’r canllawiau yma (lawrlwythiadau PDF neu Word ).

 

 

 

 

Darllenwch ganllawiau Cronfa Arddangos Ffilmiau yn llawn cyn gwneud cais.

Os hoffech drafod eich syniadau cyn gwneud cais, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda lisa@filmhubwales.org

Cynllun Cymorth Mynediad BFI

  • Os oes gennych anghenion hygyrchedd sy’n golygu bod arnoch angen cymorth gyda’r broses, mae’n bosib y byddwch yn buddio o gynllun Cynllun Cymorth Mynediad BFI.

Cyngor Economaidd-gymdeithasol

  • Cewch gyngor a chefnogaeth ychwanegol ynglŷn â sut i chwalu rhwystrau economaidd-gymdeithasol, wrth i chi gynllunio a chyflwyno'ch prosiect, gan ein harbenigwr llawrydd, Linnea Petterson: linneajpettersson@gmail.com
  • Gwyliwch y fideo isod:

Os ydych yn chwilio am gyllid ar gyfer gweithgarwch na fedrwn ei ariannu, gwelwch ein hadnodd codi arian ar gyfer dolenni allanol.

Rydym hefyd yn cynnig digwyddiadau rhwydweithio, cyrsiau hyfforddi, cefnogaeth marchnata a newyddion y diwydiant.

 

^
CY